S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Adloniant

Ar gael nawr

  • Bwrdd i Dri

    Bwrdd i Dri

    Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.

  • Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Eurof sydd yn y stiwdio steilio heddiw. Cyn brifathro, sy'n caru popeth rygbi ac sy'n byw mewn shorts a dillad chwaraeon. Mae'n ysu cael trio steil newydd a ffeindio gwisg fydd yn addas ar gyfer mynd a'i wraig Diane allan am bryd o fwyd sbesial.

  • Ar Brawf

    Ar Brawf

    Mae Gwenan yn benderfynol o gadw i ffwrdd o alcohol a chyffuriau er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o droseddu eto. Mae Tom mewn perygl o gael ei yrru yn ôl i'r llys am fethu ei apwyntiadau gwaith di-dâl. Elin a Danielle ydy'r Swyddogion Prawf sy'n rheoli'r ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.

  • Stori'r Iaith

    Stori'r Iaith

    Sean Fletcher sy'n mynd ar daith bersonol i ddarganfod mwy am hanes yr iaith Gymraeg. Bydd yn darganfod sut ddatblygodd y Gymraeg o'r Frythoneg 1500 o flynyddoedd yn ôl, ac yn rhyfeddu at rai o'r esiamplau cynharaf o'r iaith. Yn ystod ei daith bydd yn cwrdd ag unigolion sydd wedi llwyddo i sicrhau bod yr iaith yn cyrraedd llwyfan y byd, yn cynnwys sgwrs arbennig gyda'r pêl-droediwr Ben Davies. Cyfres sy'n dathlu'r Gymraeg, Cymreictod a dros 1500 o flynyddoedd o hanes.

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Ar Sgwrs dan y Lloer heno fe fydd Elin yn sgwrsio tan yr oriau mân hefo'r soprano, Rhian Lois.

  • None

    Strip

    Mae criw o stripwyr yn anelu at roi Rhyl yn ôl ar y map gyda'u clybiau strip unigryw.

  • Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd

    Mae'r cogydd Chris Roberts, y gomediwraig Kiri Pritchard-Mclean a'r cyflwynydd Alun Williams ar daith fythgofiadwy drwy Seland Newydd. Mae'r daith yn cychwyn yn Queenstown, tref yn Ynys y De sydd â chysylltiad annisgwyl â Chymru, cyn profi un o anturiaethau enwocaf y wlad, y Nevis Swing - ond faint fydd yn barod i roi cynnig arni' Yn Dunedin, mae'r tri yn mwynhau sesiwn blasu cwrw yn Speights Brewery, bragdy hynaf ac enwocaf y wlad, cyn rhoi cynnig ar seiclo i fyny Stryd Fwyaf Serth y Byd.

  • Mwy o Adloniant

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Adloniant S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?